Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Affricaneg

Oddi ar Wicipedia
Affricaneg (Afrikaans)
Siaredir yn:De Affrica aNamibia.
Parth:De Affrica (rhanbarth)
Cyfanswm o siaradwyr:6.4 miliwn fel iaith gyntaf
6.75 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith
Safle yn ôl nifer siaradwyr:
Achrestr ieithyddol:Indo-Ewropeg

 Germaneg
  Germaneg Orllewinol
   Isel Ffranconeg
    Iseldireg
     Affricaneg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn:De Affrica
Rheolir gan:Die Taalkommissie
Codau iaith
ISO 639-1af
ISO 639-2afr
ISO 639-3afr
Gweler hefyd:IaithRhestr ieithoedd

Un o ieithoeddDe Affrica ywAffricaneg neuAffricâns. Mae'n tarddu o'rIseldireg ond yn sefyll ar wahân iddi feliaith Germanaidd yn y teulu oieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Datblygodd Affricaneg yn Ne Affrica gyda dyfodiad yrAffricaneriaid (Boeriaid) yn y18g. Mae'n iaith swyddogol yn y wlad ers1925. Mae'r iaith yn cynnwys dylanwadau o ieithoedd eraill megis Ffrangeg a Saesneg a hefyd iaith y caethwaesion a'r gweithwyr a ddygwyd neu ddenwyd i weithio i'r Iseldirwyr gwreiddiol e.e. Malayeg o drefedigaethau'r Iseldiroedd yn nwyrain Asia a hefyd y brodorionKhoi aSan. Mae'r iaith felly, o'r cychwyn, wedi bod yn iaith amlethnig.

Demograffeg siaradwyr Affricaneg

[golygu |golygu cod]
Plant yKaapse Kleurling, o'r Wes Kaap, dydy mwyafrif siaradwyr Affricaneg iaith gyntaf ddim yn bobl croenwyn

Rhenir ei siaradwyr mamiaith yn weddol gyfartal rhwng bobl gwyn a phobl o dras cymysg, yKaapse Kleurling, h.y. y bobl gymysgryw y Penrhyn. Ceir hefyd lleiafrif fechan o bobl ddu sydd yn siarad Affricaneg fel mamiaith.

Yn ôlCyfrifiad 2011 De AfricaArchifwyd 2018-12-25 yn yPeiriant Wayback mae 7 miliwn o bobl yn siarad Affricaneg fel iaith gyntaf (13% o'r boblogaeth). Mae'n iaith gyntaf 70% (3.5 miliwn person) o'r gymunedKaapse Kleurling a 60% (2.7 miliwn) o'r gymuned gwyn. Ceir oddeutu 600,000 o bobl Ddu sy'n siarad Affricaneg fel iaith gyntaf hefyd.

Mae 11% o boblogaethNamibia hefyd yn siarad Affricaneg ac yn lingua franca mewn sawl sefyllfa. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr yn ardal y brifddinas, Windhoek a'r ardaloedd sy'n ffinio â thalaith Gogledd y Penrhyn yn Ne Affrica.

Amcangyfrifir fod rhwng 15 a 23 miliwn o bobl yn gallu siarad Affricaneg fel iaith gyntaf neu ail neu drydydd iaith.

Mae Affricaneg yn nodweddiadol am fod yn un o'rieithoedd Indo-Ewropeaidd mwyafanalytig. Hi yw'r unigiaith Germanaidd sydd wedi datblygu'n sylweddol ar gyfandirAffrica.

Statws a brwydr yr iaith

[golygu |golygu cod]

Tybir i Affricaneg ddatblygu 50 mlynedd cyn dyfodiadJan van Riebeeck wrth i forwyr Iseldireg fasnachu gyda'r Khoi brodorol. Yn ystod y ddau can mlynedd nesaf fe aeth yr Iseldireg lafar drwy lawer o newid, ond cadwa'r bobl i ysgrifennu a darllen mewn Iseldireg safonol. Adnabwyd yr Iseldireg a siaradwyd yn Ne Affrica fel Iseldireg y Penrhyn (Kaaps Hollands) ac, yn fwy dirmygus,kombuistaal ‘iaith y gegin’ (nid yn annhebyg i ymadrodd ‘iaith a gegin gefn’ a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y Gymraeg ar un adeg).

Erbyn diwedd y 19g roedd cyfnabyddiaeth gan rai fod yr iaith a siaradwyd yn Ne Affrica wedi esblygu i fod yn iaith wahanol i'r Iseldireg 'safonnol'. O ganlyniad, ffurfiwyd yGenootskap van Regte Afrikaners (Affricaneg ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaneriaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Affricaneg o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Affricaneg o'r enwDie Afrikaanse Patriot ("Y Gwladgarwr Affricaneg"). Bwriad y gymdeithas oedd roi statws a defnydd i'r iaith a siaradwyd yn Ne Affrica.

Yn 1925 daeth yn iaith swyddogol y wlad, ynghyd â'r Saesneg (ond nid un o'r ieithoedd frodorol ddu) a chyhoeddwyd cyfieithwyd o'rBeibl i'r Affricaneg yn 1933.

YTaalmonument - cofeb i'r Affricaneg

[golygu |golygu cod]
Obelisg y gofeb iaith,Taalmonument, Paarl

Un o hynodrwydd ei siaradwyr yw iddynt adeiladu'r Taalmonument,Cofeb yr Iaith Afrikaans, yn nhref Paarl yn nhalaith y Penrhyn Orllewinnol. Agorwyd y gofeb yn 1965 i nodi hannercan mlwyddiant gwneud yr iaith yn iaith swyddogol. Mae'r Gofeb yn cynnwys parc ac amgueddfa.

Llenorion

[golygu |golygu cod]

Ymlith llenorion yr iaith maeAdam Small aMeville Alexander.

Dosbarthiad tafodieithoedd Affricaneg

[golygu |golygu cod]
  • Iseldireg
    • Affricaneg
      • Kaapse Afrikaans (Affricaneg y Penrhyn)
      • Oorlams (tafodiaith leiaf o ran nifer, tafodiaith Affricaneg pobl frodorol y wlad, yr Oorlam, is-lwyth o'r Nama)
      • Oranjerivier-Afrikaans (Affricaneg Afon Oren)
      • Oosgrens-Afrikaans (Affricaneg Ffin y Dwyrain - yr Affricaneg a ddatblygodd gyda'rVoortrekkers a ymfudodd allan o'r Penrhyn tuag at dwyarain perfeddwlad De Affrica yn hanner gyntaf yr 19g)
      • Afrikaans Namibia - mae Affricaneg yn un o brif ieithoeddNamibia a bu'n iaith yno ers canrifoedd fel mamiaith ac fel lingua franca[1] Yn 2010-11 fel ymgais i ail-ddiffinio'r dafodiaeth fel creuwyd sioe lwyfan gerddorolhop-opera o'r enwAfrikaaps gan artistiaid Affricaneg amrywiol yn wyn ac yn arbennig o'r gymunedKaapse Kleurlinge. Trosglwyddwyd hanes y dafodiaith (a'i iaith Affricaneg) drwy gyfrwng jazz, hip-hop, caneuon traddodiadolgoema areggae gan adrodd hanes o'r dyddiau cynnar a hanes siaradwyr cynharaf yr iaith newydd, Autshumaoa ("Harry the Strandloper") i'r presennol.[2]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. https://www.litnet.co.za/afrikaans-as-lingua-franca-in-namibie/
  2. https://mg.co.za/article/2016-12-15-00-afrikaaps-is-an-act-of-reclamation

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad AffricanegWicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Eginyn erthygl sydd uchod amiaith. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod amDde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Chwiliwch amAffricaneg
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Affricaneg&oldid=13462021"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp