Calon yr adweithydd pitw bach o'r enw CROCUS, a ddefnyddir i ymchwilio i adweithion niwclear yn École Polytechnique Fédérale de Lausanne yn ySwistir.
Maeadweithydd niwclear yn declyn enfawr sy'n medru rheoli'r broses ble mae atomauelfen ymbelydrol megiswraniwm-235 neuplwtoniwm-239 yn cael eu hollti; fel arfer fe wneir hyn er mwyn harneisio'rynni a ddaw ar ffurftrydan. Mae'radwaith cadwyn (Saesneg:chain reation) yma yn creu llawer o wres, sydd yn ei dro'n berwi'r dwr sydd yn yr adweithydd ac yn troityrbeins. Gelwir yr adeilad lle lleolir yr adweithydd, fel arfer, ynatomfa.
Mae'r dechnoleg yn ennillynni trwy ddefnyddio adwaith niwclear, naill aiymholltiad niwclear (Saesneg:nuclear fission) neuymasiad niwclear. Ar hyn o bryd, dim ond ymholltiad niwclear a ddefnyddir yn fasnachol, lle mae'r adwaith niwclear yn cael ei reoli'n ofalus gan wyddonwyr. Mae'r ddau fath o adwaith yn rhyddhau maint aruthrol o ynni allan o faint cymharol fychan o fater.