![]() | |
Math | tref,cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 4,184, 4,217 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,293.45 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0842°N 4.6579°W ![]() |
Cod SYG | W04000363 ![]() |
Cod OS | SN175465 ![]() |
Cod post | SA43 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Tref farchnad hanesyddol achymuned yn neCeredigion ywAberteifi (Saesneg:Cardigan); saif ar lôn yrA487 hanner ffordd rhwngAberaeron i'r gogledd acAbergwaun i'r de. Fel mae'r enw yn ei awgrymu, saif y dref ar lan ogleddolAfon Teifi geraber yr afon honno ymMae Ceredigion. Yr ochr arall i'r aber mae pentref hanesyddolLlandudoch. Yn 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 4,184 (Cyfrifiad 2011).
Codwydcastell yn Aberteifi tua dechrau'r12g yn ôl pob tebyg (mae peth dryswch yn y cofnodion cynnar rhwng y castell yn y dref a'r castell cynharach ar ei gyrion a elwirHen Gastell Aberteifi). Yn y flwyddyn1176 cynhalioddYr Arglwydd Rhys oDdeheubartheisteddfod yn ei lys yno adeg yNadolig, yreisteddfod gyntaf sy'n hysbys. YmweloddGerallt Gymro ag Aberteifi yn ystod eidaith trwy Gymru ym1188. Arhosodd y castell a'r dref fechan yn nwylo arglwyddiDeheubarth y rhan fwyaf o'r amser hyd1240 pan syrthiodd i'r Saeson. CipioddOwain Glyndŵr y castell o ddwylo'rSaeson ym1405.
Tyfodd y dref yn borthladd prysur yn y18g. Erbyn dechrau'r19g roedd dros 300 olongau hwylio yn gofrestredig yno. Cofnodir i tua 200 o longau gael eu hadeiladu mewn pump iard adeiladu ar lan yr afon. Allforid llechiCilgerran o'r porthladd. Fodd bynnag dechreuodd yr afon siltio i fyny ac erbyn dechrau'r20g roedd dyddiau'r porthladd ar ben.
Adeiladwyd y bont bum bwa ar draws afon Teifi yn 1726.[1]
Un o adeiladau mwyaf adnabyddus y dref yw'rGuildhall.
Rhai o'r Gweinidogion: George Hughes (1881-1924); Y Parchg J. Arthur Jones 1927- ; Y Parchg Dr. Leighton James; Y Parchg Roland Bevan; Y Parchg David P. Kingdon; Y Parchg Ifan Mason Davies (1986- ); Y Parchg Dr. Gareth Edwards
Dyma enwau rhai o'r Gweinidogion: Robert Roberts, Penllwyn (1857-1862); Daeth Y Parchg W. Meidrym Jones ar 24 Hydref 1870; Mydrim Jones (1870-77); Griffith Davies (1881-74?; 1889-96); Y Parchg J. G. Moelwyn Hughes MA, PhD o Gastell Nedd (Ion 1896-1917/18); R. R. Williams (1923– ); Y Parchg Currie Hughes BA (1929- ); Y Parchg Richard Jones MA BSc, Charing Cross (Ion 1969– ); Y Parchg Thomas Roberts (1973-84) (1982?); Y Parchg Ifor ap Gwilym
Dyma rhai o'r Gweinidogion:Y Parchg Daniel Davies (1812–64); David Owen; David Owen arall; Y Parchg William Davies (1865-74); Y Parchg T. J. Morris (1876–1908); Y Parchg T. Esger James (1910–35); Y Parchg D. J. Roberts (1939–77); Y Parchg Ieuan Davies (1977-84); Y Parchg J. Arwyn Phillips (1986–93); Y Parchg Irfon Roberts (rhannu â Bethania).
Adeiladwyd y capel gwreiddiol ym 1803. Ail adeiladwyd ym 1869; ail agorwyd 20-21 Medi 1870. Adeiladwyd y festri ym 1881, a thŷ'r capel. Ym 1905 roedd gan y Capel 344 o aelodau.
Dyma enwau'r Gweinidogion:David Phillips; Richard Hancock ( -1850); Robert Breeze (1854); David Jones (1861-67); John Newman Richards (1867-73); Lewis Beynon (1873-); Melchizedek Evans (1884); T. C. Evans; Garro Jones (1895-1902); Evan Evans (1902-05); Morda Evans (1905-1911); W. Whittington (1911-1923); T. J. Walters (1928- ); T. E. Morris; Chwe 1946 Thomas Perkins. Ailadeiladwyd mis Hydref 1880.
Eglwys Mair y TapyrArchifwyd 2011-09-19 yn yPeiriant WaybackAgorwyd yr Eglwys bresennol ar 23 Gorffennaf 1970. Offeiriaid:Joseph Higgins (1930-32); John Tole (1932); Wilfred Brodie (1932-3); Basil Rowlands (1933-36); Thomas Williams (1936); Joseph Wedlake (1937-9); Thomas Canning (1940); James McAniff (1941); J. B. O’Connell (1942-5); Phillip Dwyer (1946-7); William Andrews (1947); Albin Kaltenbach (1947-51); George A. Anwyll (1951-9); Raymond Joyce (curad) (1951-9); John McHugh (1950-61??); Arthur Davies (1961); Seamus Cunanne (1962-99); Augustine Paikkatt (1999-2003); Jason Jones (2003–31/1/2011);
Offeiriaid:450 AD St Mathaiarn, mab Brychan; 1114; Edward y Presbyter; 1349 John de Whittle; 1411 John Barnett; 1413 Thomas Day; 1434 John Thornbury; John Frodsham; 1497 Richard Robyns; 1502 Hugh Wenty; 1524 Thomas Hore (y prior olaf); 1534 Morgan Meredith; 1553 Griffin Williams (? - 1555); 1555 Philip Howell ap Rice; 1563 Peregrine Daindle; Nicholas Harry; 1660 Gwilliomo Owens; Charles Price; 1662 Johannus Morgan; 1666 Richard Harries; 1693 David Jenkins MA; 1717 Thomas Richards MA; 1729 Jacobus Phillips BA; 1730 Jacobus Thomas; 1731 Rice neu Rees (Audelnus?Audoernis) Evans; 1737 Hugh Pugh BA; 1747 John Davies; 1748 William Powell; 1756-77 John Davies; 1778 John Evans; 1789 John Evans (yr un un mwy na thebyg); 1824-76 Griffith Thomas; 1876-1900 William Cynog Davies BD; 1900-12 David John Evans MA RD; 1912-16 David Timothy Alban BA RD; 1917-31 David Morgan Jones BA RD (Canon St Davids); 1931-51 Edward Lee Hamer BA; 1951- David Thomas Price BA; Ernest Jones; William Richards.
Yngnghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Aberteifi (pob oed) (4,184) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberteifi) (2,194) | 54.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberteifi) (2938) | 70.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberteifi) (972) | 48.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
GalwydGŵyl Fawr Aberteifi yn wreiddiol yn Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi a gynhaliwyd yn gyntaf yn 1953.[7]
1176 Eisteddfod gyntaf
1-2 Awst 1866Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn pafiliwn pren mewn cae tu ôl i Gapel Bethania. Enillodd J R Phillips wobr o £10 am sgrifennu hanes Cilgerran.Côr Felindre (Drefach), yr unig gystadleuwyr, enillodd £10 yn ‘Achub Fi, O Dduw’.Bu cystadlu rhwng Côr Brynberian ac Aberteifi am wobr o £8 am ganu ‘Blessed be Thou, Lord God of Israel’. Aberteifi enillodd. Bu'r eisteddfod yn fethiant ariannol oherwydd salwch colera yn yr ardal.
12 Mehefin 1878 Cynhaliwyd mewn pafiliwn yn dal 5,000. Y llywydd oedd T. E. Lloyd, Coedmore AS, a David Davies AS y Fwrdeistref.Y côr buddugol oedd Bargoed Teifi.
14 Gorffennaf 1880 Bell Court – tu ôl Pendre. Pafiliwn yn dal 5,000. Prif fardd oedd Thomas Davies, Llwynysgaw (Ysgawenydd).
7 Awst 1895 Pabell ym Mhontycleifion.
4 Awst 1909
7 Awst 1942: cafwyd ymweliad gan Lloyd George, Megan, D. O. Evans AS, Mrs D. O. Evans YH
Mai 1954: enillwyd y gadair gan James Nicholas.
CynhaliwydEisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi ym1942 a1976. Am wybodaeth bellach gweler:
Trefi
Aberaeron ·Aberteifi ·Aberystwyth ·Ceinewydd ·Llanbedr Pont Steffan ·Llandysul ·Tregaron
Pentrefi
Aberarth ·Aber-banc ·Aber-ffrwd ·Abermagwr ·Abermeurig ·Aber-porth ·Adpar ·Alltyblaca ·Betws Bledrws ·Betws Ifan ·Betws Leucu ·Bethania ·Beulah ·Blaenannerch ·Blaenpennal ·Blaenplwyf ·Blaen-porth ·Y Borth ·Bow Street ·Bronant ·Bwlch-llan ·Capel Bangor ·Capel Cynon ·Capel Dewi ·Capel Seion ·Caerwedros ·Castellhywel ·Cellan ·Cilcennin ·Ciliau Aeron ·Clarach ·Cnwch Coch ·Comins Coch ·Cribyn ·Cross Inn (1) ·Cross Inn (2) ·Cwm-cou ·Cwmystwyth ·Cwrtnewydd ·Dihewyd ·Dôl-y-bont ·Eglwys Fach ·Felinfach ·Y Ferwig ·Ffair-rhos ·Ffostrasol ·Ffos-y-ffin ·Ffwrnais ·Gartheli ·Goginan ·Y Gors ·Gwbert ·Henfynyw ·Henllan ·Horeb ·Llanafan ·Llanarth ·Llanbadarn Fawr ·Llandre ·Llandyfrïog ·Llanddeiniol ·Llanddewi Brefi ·Llanfair Clydogau ·Llanfarian ·Llanfihangel y Creuddyn ·Llangeitho ·Llangoedmor ·Llangrannog ·Llangwyryfon ·Llangybi ·Llangynfelyn ·Llangynllo ·Llanilar ·Llanio ·Llan-non ·Llanrhystud ·Llansantffraid ·Llanwenog ·Llanwnnen ·Llechryd ·Lledrod ·Llundain-fach ·Llwyncelyn ·Llwyndafydd ·Llwyn-y-groes ·Morfa ·Mwnt ·Nanternis ·Penbryn ·Penparc ·Penrhiw-llan ·Penrhyn-coch ·Penuwch ·Pen-y-garn ·Plwmp ·Pontarfynach ·Ponterwyd ·Pontgarreg ·Pontrhydfendigaid ·Pont-rhyd-y-groes ·Pontsiân ·Post-mawr ·Rhydlewis ·Rhydowen ·Rhydyfelin ·Rhydypennau ·Salem ·Sarnau ·Southgate ·Swyddffynnon ·Talgarreg ·Tal-y-bont ·Temple Bar ·Trefenter ·Trefilan ·Tremain ·Tre-saith ·Tre Taliesin ·Troed-yr-aur ·Ysbyty Ystwyth ·Ystradaeron ·Ystrad Meurig ·Ystumtuen