Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Aberllefenni

Oddi ar Wicipedia
Aberllefenni
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6736°N 3.8197°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH770097 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

MaeAberllefenni ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref yn neGwynedd, yn nyffrynAfon Dulas ac ar y ffordd gefn sy'n gadael y brifforddA487 ym mhentrefCorris; cyfeirnod OS: SH 77044 09940. Mae'r ffordd yma yn arwain tua'r gogledd-ddwyrain i Aberllefenni, yna'n troi tua'r dwyrain iAberangell. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Corris.

Hanes

[golygu |golygu cod]
Aberllefenni tua 1885

Ar un adeg yr oedd y diwydiant llechi yn bwysig iawn yma, ac y mae olion hen chwareli o gwmpas y pentref. Roedd chwareli Foel Grochan, Hen Chwarel a Ceunant Ddu gyda'i gilydd yn ffurfioChwarel Lechi Aberllefenni. RoeddRheilffordd Corris yn gorffen yn Aberllefenni, ac yn cario llechi iFachynlleth. Cysylltid y chwareli mwyaf pellennig a'r rheilffordd ganDramffordd Ratgoed.

Credir fod y ffordd RufeinigSarn Helen yn mynd trwy'r pentref, ac efallai fod yr enw Pensarn am deras o dai yma yn cyfeirio ati. Ar un adeg gelwid Llyn Cob yn "Llyn Owain Lawgoch", er nad oes cofnod hanesyddol oOwain Lawgoch yn yr ardal yma. Ymhlith yr adeiladau diddorol mae Plas Aberllefenni. Roedd rhannau o hwn wedi eu hadeiladu yn y Canol Oesoedd, ond tynnwyd y rhan yma i lawr yn y 1960au, a dim ond rhannau mwy diweddar a gadwyd.

Bythynnod chwarelwyr

[golygu |golygu cod]

Yn yr 16g cafodd tai a bythynnod eu hadeiladu yn y pentref i ddarparu llety i'r chwarelwyr a oedd yn gweithio yn Aberllefenni. Yn 1956 prynodd cwmni Wincilate Limited - cwmni o ogledd Cymru - Chwarel Aberllefenni ac yn 1964 Chwarel Braich Goch yng Nghorris. Daeth naw o dai rhes ac amryw fythynnod i eiddo'r cwmni hefyd.

Yn 2016 daeth cwmni D Meredith a'i feibion yn berchnogion newydd Chwarel Aberllefenni, ynghyd a'r tai. Rhoddwyd 16 o dai ar y farchnad y flwyddyn honno, i'w gael eu gwerthu gyda'i gilydd. Yn 2022, gwerthwyd y tai i gwmni Cwmni Walsh Investment Properties, Llundain am tua £1m.[1]

Roedd pryder ar y pryd am rhent y tai yn codi yn sgîl y berchnogaeth newydd, gydag un tŷ yn wynebu cynnydd o dros 60% ym mhris eu rhent. Dywedodd y perchnogion newydd bod "rhan fwyaf o'r eiddo wedi bod yn talu rhent isel ers nifer o flynyddoedd" ac roeddent yn "bwriadu codi'r holl renti i ddod â nhw yn unol â gwerthoedd cyfredol y farchnad".[2]

Pobl o Aberllefenni

[golygu |golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
Trefi a phentrefiGwynedd

Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw  ·Y Bala  ·Bethesda  ·Blaenau Ffestiniog  ·Caernarfon  ·Cricieth  ·Dolgellau  ·Harlech  ·Nefyn  ·Penrhyndeudraeth  ·Porthmadog  ·Pwllheli  ·Tywyn
Pentrefi
Aberangell  ·Aberdaron  ·Aberdesach  ·Aberdyfi  ·Aber-erch  ·Abergwyngregyn  ·Abergynolwyn  ·Aberllefenni  ·Abersoch  ·Afon Wen  ·Arthog  ·Beddgelert  ·Bethania  ·Bethel  ·Betws Garmon  ·Boduan  ·Y Bont-ddu  ·Bontnewydd (Arfon)  ·Bontnewydd (Meirionnydd)  ·Botwnnog  ·Brithdir  ·Bronaber  ·Bryncir  ·Bryncroes  ·Bryn-crug  ·Brynrefail  ·Bwlchtocyn  ·Caeathro  ·Carmel  ·Carneddi  ·Cefnddwysarn  ·Clynnog Fawr  ·Corris  ·Croesor  ·Crogen  ·Cwm-y-glo  ·Chwilog  ·Deiniolen  ·Dinas, Llanwnda  ·Dinas, Llŷn  ·Dinas Dinlle  ·Dinas Mawddwy  ·Dolbenmaen  ·Dolydd  ·Dyffryn Ardudwy  ·Edern  ·Efailnewydd  ·Fairbourne  ·Y Felinheli  ·Y Ffôr  ·Y Fron  ·Fron-goch  ·Ffestiniog  ·Ganllwyd  ·Garndolbenmaen  ·Garreg  ·Gellilydan  ·Glan-y-wern  ·Glasinfryn  ·Golan  ·Groeslon  ·Llanaber  ·Llanaelhaearn  ·Llanarmon  ·Llanbedr  ·Llanbedrog  ·Llanberis  ·Llandanwg  ·Llandecwyn  ·Llandegwning  ·Llandwrog  ·Llandygái  ·Llanddeiniolen  ·Llandderfel  ·Llanddwywe  ·Llanegryn  ·Llanenddwyn  ·Llanengan  ·Llanelltyd  ·Llanfachreth  ·Llanfaelrhys  ·Llanfaglan  ·Llanfair  ·Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)  ·Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant)  ·Llanfihangel-y-traethau  ·Llanfor  ·Llanfrothen  ·Llangelynnin  ·Llangïan  ·Llangwnadl  ·Llwyngwril  ·Llangybi  ·Llangywer  ·Llaniestyn  ·Llanllechid  ·Llanllyfni  ·Llannor  ·Llanrug  ·Llanuwchllyn  ·Llanwnda  ·Llanymawddwy  ·Llanystumdwy  ·Llanycil  ·Llithfaen  ·Maentwrog  ·Mallwyd  ·Minffordd  ·Minllyn  ·Morfa Bychan  ·Morfa Nefyn  ·Mynydd Llandygái  ·Mynytho  ·Nantlle  ·Nantmor  ·Nant Peris  ·Nasareth  ·Nebo  ·Pant Glas  ·Penmorfa  ·Pennal  ·Penrhos  ·Penrhosgarnedd  ·Pen-sarn  ·Pentir  ·Pentrefelin  ·Pentre Gwynfryn  ·Pentreuchaf  ·Pen-y-groes  ·Pistyll  ·Pontllyfni  ·Portmeirion  ·Prenteg  ·Rachub  ·Y Rhiw  ·Rhiwlas  ·Rhos-fawr  ·Rhosgadfan  ·Rhoshirwaun  ·Rhoslan  ·Rhoslefain  ·Rhostryfan  ·Rhos-y-gwaliau  ·Rhyd  ·Rhyd-ddu  ·Rhyduchaf  ·Rhydyclafdy  ·Rhydymain  ·Sarnau  ·Sarn Mellteyrn  ·Saron  ·Sling  ·Soar  ·Talsarnau  ·Tal-y-bont, Abermaw  ·Tal-y-bont, Bangor  ·Tal-y-llyn  ·Tal-y-sarn  ·Tanygrisiau  ·Trawsfynydd  ·Treborth  ·Trefor  ·Tre-garth  ·Tremadog  ·Tudweiliog  ·Waunfawr

  1. "Aberllefenni: 'Pwysig cadw rhenti tai yn rhesymol'".BBC Cymru Fyw. 2022-10-11. Cyrchwyd2024-12-30.
  2. "Aberllefenni: Tenantiaid yn poeni am bris rhent newydd".BBC Cymru Fyw. 2023-02-14. Cyrchwyd2024-12-30.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Aberllefenni&oldid=13419688"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp