Morwr, fforiwr a marsiandïwr o'rIseldiroedd oeddAbel Janszoon Tasman (1603 -10 Hydref1659).[1]
Ganed Tasman ym 1603 ynLutjegast, yn nhalaithGroningen yn yr Iseldiroedd. Y cofnod hanesyddol cyntaf amdano yw ei fod wedi priodi Jannetjie Tjaers ym 1631, pan oedd yn ŵr gweddw yn byw ynAmsterdam. Yn fuan wedyn aeth i weithio i'rVOC (Cwmni India'r Dwyrain yr Iseldiroedd) ac ym 1634 roedd yn fêt ar long yn hwylio o Batavia (Jakarta ynIndonesia bellach).
Ym mis Awst1642 gyrrwyd Tasman i chwilio am dir yn rhan ddeheuol yMôr Tawel. Ar24 Tachwedd 1642 gwelodd arfordir yr ynys sydd nawr wedi ei henwi ar ei ôl,Tasmania, er mai "Gwlad van Diemen" y galwodd ef hi, ar ôl Anthony van Diemen, llywodraethwr India'r Dwyrain. Trodd Tasman tua'r dwyrain ac ar13 Rhagfyr gwelwyd arfordir yr ynysoedd sy'n awr yn dwyn yr enwSeland Newydd. Yr enw a roddodd Tasman i'r ynys oeddStaten Landt. Lladdwyd pedwar o'i wŷr gan nifer o'rMaorïaid. Wedi rhagor o anturiaethau, dychwelodd i Batavia ar15 Mehefin 1643. Ym 1644 cychwynnodd ar fordaith arall, gan archwilio arfordir gogleddolAwstralia. Bu farw yn Batavia ym mis Hydref 1659.
- ↑Ralph J. Perdriau (1966).Elusive Freedoms (yn Saesneg). Leslie Harold Perdriau. t. 105.