Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Abcasiaid

Oddi ar Wicipedia
Abcasiaid
Gorymdaith o Abcasiaid yn chwifio'u baner genedlaethol.
Enghraifft o:pobl,grŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithAbchaseg edit this on wikidata
Poblogaeth185,000 Edit this on Wikidata
CrefyddEglwysi uniongred,swnni, abkhaz neopaganism edit this on wikidata
Rhan oieithoedd Gogledd-orllewin y Cawcasws Edit this on Wikidata
Yn cynnwysApsua Edit this on Wikidata
Enw brodorolаҧсуаа Edit this on Wikidata
GwladwriaethTwrci,Moscfa,Crai Krasnodar,Oblast Rostov,St Petersburg,Adygea, Karachay-Cherkessia,Syria,De Osetia,Ajaria,Tbilisi, Samegrelo-Zemo Svaneti,Wcráin,Gwlad Iorddonen,Libanus,Yr Aifft,Unol Daleithiau America,Abchasia,Georgia,yr Almaen Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cenedl a grŵp ethnig yng ngorllewiny Cawcasws yw'rAbcasiaid[1] sydd yn frodorol i ardalAbchasia ar lannau'rMôr Du. Amcangyfrifwyd yn 2015 taw 200,000–600,000 o Abcasiaid sydd, a thrigasant 150,000–200,000 ohonynt yn eu mamwlad.Abchaseg yw'r iaith frodorol, ac mae nifer ohonynt hefyd yn siaradGeorgeg,Rwseg, neuDyrceg. O ran crefydd, MwslimiaidSwnni (defod Hanafi) yw'r mwyafrif, a lleiafrifoedd yn arddelCristnogaeth Uniongred Dwyreiniol (yr Eglwys Uniongred Abcasaidd) neuneo-baganiaeth ar sail crefydd yr hen Abcasiaid.

Gellir olrhain bodolaeth y genedl Abcasaidd yn ôl i'rHenfyd. Trodd y mwyafrif o Abcasiaid ynGristnogion erbyn y 4g. Sefydlwyd gwladwriaeth annibynnol ganddynt yn 740. Daeth Abcasia dan reolaeth yGeorgiaid yn 1008, ac yn brotectoriaeth iYmerodraeth yr Otomaniaid yn 1578, ac wedi hynny trodd y mwyafrif o Abcasiaid ynFwslimiaid. Daeth Abcasia dan reolaethYmerodraeth Rwsia yn 1810, ac yn rhan oYmerodraeth Rwsia yn 1864 yn sgil trechiad Tywysog Abcasia yn Rhyfeloedd y Cawcasws. Yn y cyfnod rhwng gwrthryfel 1866 a 1878, ymfudodd mwy na 70,000 o Abcasiaid i Dwrci. Yn ystodChwyldro Rwsia, datganwyd annibyniaeth yr Abcasiaid ond cafodd ei hymgorffori'n rhan oGeorgia, a ymunodd yn ddiweddarach â'rUndeb Sofietaidd. Dan lywodraethJoseff Stalin, cafodd sawl cenedl gyfan yn yr Undeb Sofietaidd ei chaethgludo i ran arall o'r wlad. Gwnaed cynllun o'r fath ar gyfer yr Abcasiaid, ond bu farw Stalin cyn iddo gael ei weithredu. Fel rhan o Weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Georgia, ymsefydlodd nifer o Georgiaid yn Abcasia ac erbyn 1950 bu'r Abcasiaid yn lleiafrif yn eu mamwlad. Bu rhyfela rhwng yr Abcasiaid a'r Georgiaid yn sgilcwymp yr Undeb Sofietaidd, a datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth Abcasia yn 1992. Dim ond ychydig o wladwriaethau sydd yn cydnabod bodolaeth Gweriniaeth Abcasia, ac mae'r mwyafrif helaeth o wledydd a chyrff rhyngwladol yn ystyried Abcasia yn diriogaeth i Georgia.[2]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, "Abkhaz".
  2. James B. Minahan.Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 3–4.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Abcasiaid&oldid=10798873"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp