![]() | |
Math | mynachlog,abaty ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Margam ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.56238°N 3.729888°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM005 ![]() |
AbatySistersiaidd oeddAbaty Margam, sydd wedi ei leoli ymMargam ym mwrdeistref sirolCastell-nedd Port Talbot.
Sefydlwyd yr abaty yn1147 fel tŷ cangen oAbaty Clairvaux ganRobert, Iarll Caerloyw, a chysegrwyd hi i'rSantes Fair. Daeth yn noddfa bwysig i feirdd Morgannwg, yn enwedig yng nghyfnod yr AbadDafydd ap Tomas (1500-1517). Diddymwyd yr abaty ganHarri VIII, brenin Lloegr, yn1536, ac fe'i gwerthwyd iSyr Rice Mansel. O'r teulu Mansel, disgynodd yr eiddo i lawr y llinell benywaidd gan ddod i berchnogaeth y teulu Talbot. yn y 19g, adeiladodd C R M Talbot blasdyCastell Margam sydd yn edrych i lawr ar adfeilion yr abaty.
Mae Abaty Margam erbyn heddiw yn adfail heblaw corff y capel, sydd yn dal yn gyfan. Mae corff capel yr abaty yn dal i gael ei ddefnyddio fel capel plwyf hyd heddiw. Mae'r adfeilion sydd ddim yn perthyn i'r capel, yn perthyn i'r cyngor. Mae'r adfeilion yn cynnwyscabidyldy anarferol o fawr sy'n dyddio o'r13g, ac yn sefyll o fewn 840 erw Ystad Wledig Margam ger Castell Margam. Ar y bryn uwchben yr abaty, mae adfeilion mynachdyCapel Mair ar y Bryn; ar un adeg roedd 12 mynach yn byw yno.