Yn ycrefyddau Abrahamig,proffwyd acarchoffeiriadIsraelaidd oeddAaron, brawd hŷnMoses, a flodeuai o bosib yn y 15g CC. Yn ôl y traddodiadBeiblaidd, efe oedd sefydlydd yr offeiriadaeth yn Israel hynafol. Mae'r holl wybodaeth amdano yn tarddu o destunau crefyddol,y Beibl Hebraeg yn bennaf, ac felly nid yw'n sicr os oedd Aaron yn ffigur hanesyddol ai beidio.
Yn ôl y Beibl Hebraeg, cafodd efe a'i chwaer hŷn Miriam eu magu gan dylwyth Lefi yngNgosen, yn wahanol i Foses a gafodd ei fabwysiadu gan lys brenhinolyr Aifft. Siaradodd Aaron ar ran Moses pan alwodd yr hwnnw ar ypharo i ryddhau'r Israeliaid. Yn ôl y gyfraith a gyflwynwyd i Foses ymMynydd Sinai, rhoddwyd yr offeiriadaeth i Aaron a'i ddisgynyddion, ac urddwyd Aaron felly yn Archoffeiriad cyntaf yr Israeliaid. Bu farw Aaron cyn i'r Israeliaid groesiAfon Iorddonen, a chafodd ei gladdu ym Mynydd Hor neu ym Moserah. Cyfeirir at Aaron hefyd yny Testament Newydd ac yny Corân.
Yn ôl yr achau a gofnodir ynLlyfr Exodus, meibion Amran, fab Lefi, o'i wraig Iochebed, chwaer Lefi, oedd Aaron a Moses (Exodus 6:20), ac Aaron yn deirblwydd yn hŷn na Moses (Exodus 7: 7). Cofnodir Miriam, merch Amran ac felly chwaer Aaron, ynLlyfr Cyntaf y Cronicl (6: 3). Yn ôlLlyfr Numeri, bu farw Aaron ym Mynydd Hor ac yno fe'i claddwyd; yn ôlLlyfr Deuteronomium, Moserah oedd man ei farwolaeth a'i fedd.
Cyfeirir ato unwaith yn unig yn holllyfrau'r proffwydi (Micha 6:4).[1] Yn y Testament Newydd, cyfeirir at Aaron ynyr Efengyl yn ôl Luc,Actau'r Apostolion, a'rLlythyr at yr Hebreaid.
- ↑Joshua R. Porter, "Aaron" ynThe HarperCollins Bible Dictionary, golygwyd gan Paul J. Achtemeier et al. (Efrog Newydd: HarperCollins, 1996), t. 2.