Clwb pêl-droed sy'n chwarae ynSerie A ynyr Eidal ywAssociazione Calcio Milan. Mae'n un o glybiau pêl-droed enwocaf a mwyaf llwyddiannus Ewrop. Mae chwaraewyr AC Milan wedi bod yn bencampwyr Ewrop saith gwaith; dim ondReal Madrid gyda naw buddugoliaeth sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus yn y gystadleuaeth. Maent wedi ennill pencampwriaeth Serie A 17 o weithiau; dim ondJuventus sydd wedi ei hennill fwy o weithiau.
Sefydlwyd y clwb fel clwb criced ym 1899 gan Brydeiniwr o'r enwAlfred Edwards. Mae'n rhannu stadiwmSan Siro, sydd â 80,018 o seddi, gyda thîm pêl-droed arall dinasMilan,Internazionale. Perchennog y clwb yw Jason Wong.