Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg
Yn ystod yr20g bu newidiadau pellgyrhaeddol a thrawsnewidiol yn hanes y byd. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau pwysig a newidiodd y byd am byth, gan gynnwysy Rhyfel BydCyntaf a’rAil Ryfel Byd, twfpŵer niwclear, teithiau i’rgofod, twfcenedlaetholdeb a gwledydd yn dod yn annibynnol o drefedigaethau,y Rhyfel Oer, datblygiadau mewn trafnidiaeth a thechnoleg cyfathrebu, twf enfawr yn y boblogaeth ledled y byd, ymwybyddiaeth o ddirywiad ynamgylchedd ac ecoleg y byd, a’r Chwyldro Digidol. Roedd yn gyfnod lle gwelwyd cynnydd a datblygiad ar raddfa gyflym, yn enwedig ym meysyddtechnoleg feddygol. Cafwyd darganfyddiadaugeneteg a oedd yn trawsnewid hanes yddynoliaeth ac fe wnaeth y defnydd ogyfrifiaduron weddnewid bywyd ar draws y byd.
Bu farw miliynau o bobl yn ystod y ganrif ar raddfa na welwyd erioed mo’i debyg. Achoswyd y marwolaethau hyn ganryfeloedd,hil-laddiad, cyfundrefnau gwleidyddol, milwrol ac unbenaethol allofruddiaethau ar raddfa eang. Amcangyfrifir bod rhwng 50 ac 80 miliwn wedi marw oherwydd sgil effeithiau'r ddau ryfel byd yn unig. Amcangyfrifir bod 70 miliwn o Ewropeaid wedi marw oherwydd rhyfel, trais a newyn rhwng1914 a1945.
Gwelodd yr 20g ddau ryfel diarbed byd-eang rhwng arch-bwerau’r byd. Gwasgarwyd meysydd ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd ar draws cyfandiroedd a moroedd ledled y byd. Roedd hon yn ganrif lle gwelwyd twfcenedlaetholdeb mewn gwahanol wledydd, gyda gwledydd yn hawlio hunanlywodraeth, a phan gafodd ymerodraethau eu chwalu. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ymerodraethauOtoman acAwstria-Hwngari eu diddymu, diorseddwydTsar Nicholas II gan yChwyldro Rwsiaidd yn 1917 a chafodd y wladwriaeth Gomiwnyddol gyntaf ei sefydlu yn Rwsia.
Cafodddrylliau awtomatig eu defnyddio ar raddfa fawr am y try cyntaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd at nifer fawr o anafusion
Dynododd y Rhyfel Byd Cyntaf drobwynt o ran dulliau rhyfela. Achosodd datblygiadau technolegol newidiadau mawr yn y ffordd roedd rhyfel yn cael ei ymladd a sut roedd yn effeithio ar sifiliaid. Defnyddiwyd dyfeisiadau newydd fel ytanc,arfau cemegol fel clorin a nwy mwstard,llongau tanfor, a chyflwynwydawyrennau i faes y gad yn ystod hanner cyntaf yr 20g. Achosodd y rhain newidiadau yn nhactegau ymladd rhyfeloedd modern. Nododd y defnydd o arfau niwclear ynHiroshima aNagasaki yn Awst 1945 gychwyn cyfnod newid o ryfela modern.
Bu rhyfeloedd cartref mewn llawer o wledydd. Bu rhyfel cartref treisgar ynSbaen yn 1936 pan arweiniodd y CadfridogFranco wrthryfel yn erbyn Ail Weriniaeth Sbaen, sef y llywodraeth ddemocrataidd a fu’n rheoli’r wlad rhwng 1931 a 1939. Gwelwyd y gwrthryfel fel arwydd o’r tensiynau cynyddol oedd yn Ewrop cyn cychwyn yr Ail Ryfel Byd. BuDirwasgiad Mawr y 1930au yn ffactor pwysig a arweiniodd at dwf ym mhoblogrwyddFfasgaeth aNatsïaeth yn Ewrop.
Effeithiodd yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) arDdwyrain Asia a’rCefnfor tawel oherwydd ymosodiadSiapan yn erbynTsieina a’rUnol Daleithiau. Cafodd sifiliaid eu heffeithio yn llawer mwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd bomio o’r awyr ar ardaloedd poblog fel dinasoedd a threfi gan y ddwy ochr, er enghraifft, Brwydr Prydain a’rBlitz ganyr Almaen yn erbyn Prydain a’r dacteg bomio carped a ddefnyddiwyd gan Brydain ar ddinasoedd felDresden,Cologne aBerlin yn yr Almaen; a hil-laddiad yrIddewon gan yr Almaen, sef yrHolocost.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelwyd sefydluComiwnyddiaeth fel cyfundrefn wleidyddol mewn llawer o wledydd ar draws y byd. Yn sgil y Chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia yn 1917 llofruddiwyd teulu brenhinol yRomanovs gan yBolsieficiaid a chrëwyd llywodraeth Gomiwnyddol newydd o dan arweinyddiaethVladimir Lenin. Roedd 300 mlynedd o deyrnasiad brenhinol wedi dod i ben ac yn lle hynny crëwyd gwladwriaeth Gomiwnyddol gyntaf y byd. Ar ôl rôl yrUndeb Sofietaidd yn yr Ail Ryfel Byd, daeth comiwnyddiaeth yn bŵer pwysig mewn gwleidyddiaeth fyd-eang. Sefydlwyd llywodraethau comiwnyddol, er enghraifft yn Nwyrain Ewrop (er enghraifft,Hwngari,Dwyrain yr Almaen,Rwmania),Tseina,Indo-Tsieina, aChiwba. Roedd gan Gomiwnyddiaeth bŵer absoliwt, bron, yn llawer o’r gwledydd a’r ardaloedd hyn.
Gollwng y ddau fom atomig ar Siapan
Trechwyd yr Almaen yn 1945 wedi iddi gael ei goresgyn gan yr Undeb Sofietaidd a Gwlad Pwyl o gyfeiriad y dwyrain a’r Unol Daleithiau, Prydain, Canada a Ffrainc o’r gorllewin. Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn Ewrop daeth y rhyfel yn Asia yn erbyn Siapan i ben yn sgil gollwng dau fom atomig gan yr Unol Daleithiau ar Hiroshima a Nagasaki. Ar ôl y rhyfel rhannwyd yr Almaen rhwng y Pwerau Gorllewinol a’r Undeb Sofietaidd.
O hynny ymlaen daeth Dwyrain yr Almaen a gweddill gwledydd dwyrain Ewrop yn llywodraethau Comiwnyddol. Yng Ngorllewin yr Almaen sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd debyg i’r gwledydd gorllewinol. Ail-adeiladwyd gorllewin Ewrop gyda chymorth ariannol Cynllun Marshall America ac felly daeth America yn gyfaill agos i’r gorllewin.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd trodd y cydweithio rhwng yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd yn berthynas fwy gelyniaethus a drwgdybus. Dyma gyfnod y Rhyfel Oer. Roedd yn ffactor yn achosi’r rhyfeloedd yng ngwledyddCorea (1950-53) aFietnam (1957-1975).
Cynrychiolai’r ddau arch-bwer syniadau gwleidyddol gwahanol rhwng cyfalafiaeth a democratiaeth, a chafodd Ewrop ei rhannu gan y Llen Haearn. Rhannwyd Berlin ganFur Berlin oedd yn gwahanu’r rhanbarth gorllewinol, democrataidd oddi wrth y rhanbarth dwyreiniol, comiwnyddol. Ffurfiodd y ddwy ochr gynghreiriau milwrol, sefNATO aChytundeb Warsaw; datblygodd ras arfau gyda phwyslais ar ddatblygiad arfau niwclear a bu cystadleuaeth rhwng y ddau arch-bwer yn y ras i’r gofod.
Dymchwelwyd Wal Berlin adeg Chwyldroadau 1989 yn Ewrop gan greu Almaen unedig yn 1990, a chwalodd yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd 1989 yn flwyddyn lle gwelwyd dymchwel llywodraethau comiwnyddol ar draws y byd. Chwalwyd llawer o’r llywodraethau comiwnyddol roedd yr Undeb Sofietaidd wedi eu cefnogi ar draws y byd heblaw amTsiena,Gogledd Corea,Ciwba,Fietnam aLaos. RoeddProtestiadau Sgwâr Tiananmen yn 1989 yn brotestiadau treisgar lle lladdwyd cannoedd o brotestwyr yn Sgwâr Tiananmen, Beijing, Tseina mewn ymdrech i ddymchwel y llywodraeth gomiwnyddol.[1]
Methodd y Rhyfel Byd Cyntaf neu’r ‘rhyfel i orffen pob rhyfel’ sicrhau heddwch. Disgrifiwyd yr Ail Ryfel Byd fel busnes anorffenedig y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn y ddau ryfel byd ffurfiwyd Cynghrair y Cenhedloedd ac yna'r Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd yn 1919 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna disodlwyd ef gan y Cenhedloedd Unedig yn 1945 ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[2] Roedd hwn yn fforwm rhyngwladol lle gallai gwledydd y byd drafod materion a oedd yn peryglu heddwch byd-eang; trafod materion diplomyddol, trafod canllawiau ynghylch rheolau rhyfel, sut i amddiffyn yr amgylchedd, sofraniaeth gwledydd a hawliau dynol. Roedd lluoedd cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig (oedd yn cynnwys milwyr gwahanol aelodau’r Cenhedloedd Unedig) ac asiantaethau eraill y Cenhedloedd Unedig yn rhoi cymorth mewn gwahanol ardaloedd argyfyngus ar draws y byd. Roeddent yn helpu i leihau newyn, afiechydon a thlodi. Methodd sefydliadau fel Cynghrair y Cenhedloedd a’i olynydd y Cenhedloedd Unedig ag atal rhyfeloedd. Ers 1945, fodd bynnag, does dim rhyfel wedi bod rhwng y pwerau mawr gan fod y syniad o Gyd–ddinistr Sicr (MAD: Mutually Assured Destruction) wedi llwyddo i atal rhyfel. Yn y cyfnod ar ôl 1945 mae 9 rhyfel o bob 10 wedi digwydd mewn gwledydd gwan, ansefydlog yn y Trydydd Byd.[3]
Arweiniodd mwy o gydweithrediad rhwng y gwledydd at ddatblygiad yrUndeb Ewropeaidd yn ystod y 1950au. Roedd hwn yn grŵp o wledydd yn Ewrop a oedd yn cydweithio yn wleidyddol, yn economaidd ac yn fasnachol.
Mahatma Gandhi
Roedd dulliau heddychlonGandhi a’r mudiad i sicrhau annibyniaeth iIndia oddi arYmerodraeth Prydain yn ddylanwad mawr ar ddulliau protestio mudiadau gwleidyddol eraill ar draws y byd, er enghraifft, y Mudiad Hawliau Sifil yn America a’r mudiadau rhyddid ynne Affrica aBurma. Bu mudiadau cenedlaetholgar yn bwysig yn yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i India aPhakistan yn 1947. Yn yDwyrain Canol yn 1948 crëwyd gwladwriaeth Iddewig newydd,Israel. Roedd chwalfa llawer o ymerodraethau wedi arwain at annibyniaeth i lawer o wledydd yn Affrica ac Asia.
Yn ystod y 1950au a’r 1960au heriodd y Mudiad Hawliau Sifil yn America dan arweiniadMartin Luther King a’r mudiad yn erbyn apartheid yn ne Affrica o dan arweiniadNelson Mandela yr arwahanu hiliol a oedd yn digwydd yn y gwledydd hynny. Bu’n ymgyrch a barhaodd ar hyd gweddill y ganrif yn y ddwy wlad. Un o’r cerrig milltir pwysig ym mrwydr de Affrica oedd ethol Nelson Mandela yn Arlywydd du cyntaf De Affrica rhwng 1994-1999. Etholwyd ef yn yr etholiad democrataidd llawn cyntaf yn hanes de Affrica.
Bu farw degau o filiynau o daeogion Tsieineaidd rhwng 1959 a 1962 oherwydd Newyn Mawr Tsieina. Credir mai hwn oedd y newyn mwyaf yn hanes y ddynoliaeth.
Achosodd y Rhyfel Sofietaidd ynAffghanistan rhwng 1979 a 1989, dros filiwn o farwolaethau, ac roedd yn un o’r rhesymau pam chwalodd yr Undeb Sofietaidd.
The Beatles oedd un o fandiau enwocaf yr 20fed ganrif
Daeth cerddoriaethblues ajazz yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1910au a’r 1920au.
Yn y 1950au daethRoc a Rôl yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, a Jerry Lee Lewis acElvis Presley yn dod yn rhai o eiconau’r cyfnod. Yn ystod y 1960au daethThe Beatles yn fyd-enwog am eu caneuon poblogaidd wedi eu dylanwadu gan roc a rôl.[4]
O ganol yr 20g ymlaen daeth ‘roc a rôl’, cerddoriaeth werinol/roc, metal trwm aphync roc yn rhan o gerddoriaeth boblogaidd. Yn y 1980au a’r 1990au daethhip hop yn boblogaidd. Ar yr un adeg datblygwyd cerddoriaethhouse,techno,reggae asoul. Dechreuwyd defnyddio syntheseiswyr mewn cerddoriaeth, gyda hynny'n trosi i gerddoriaeth boblogaidd yn y 1980au ar ffurf cerddoriaeth ‘new wave’. Cafodd offerynnau electronig ddylanwad ar bob math o gerddoriaeth boblogaidd, ac arweiniodd hynny at ddyfeisiogenres (mathau) newydd o gerddoriaeth, felhouse,synthpop,cerddoriaeth dawns electronig acherddoriaeth ddiwydiannol.[5]
Cafoddffilm ei greu fel cyfrwng artistig yn ystod yr 20g. Agorwyd ysinema gyntaf ynPittsburgh yn 1905.
DatblygoddHollywood yn Los Angeles i fod yn ganolfan ar gyfer y diwydiant ffilmiau. Tra bod y ffilmiau cyntaf yn rhai du a gwyn, erbyn y 1920au datblygwyd ‘Technicolor’ i greu ffilmiau lliw. Rhyddhawyd y ffilm hir gyntaf gyda sain, sefThe Jazz Singer, yn 1927. Sefydlwyd Gwobrau Academi yrOscars yn 1929.
Datblygwyd animeiddio yn ystod y 1920au. Snow White and the Seven Dwarfs oedd y ffilm hir gyntaf wedi ei hanimeiddio. Rhyddhawyd y ffilm yn 1937. Datblygwyd CGI yn ystod y 1980au. Y ffilm hir CGI gyntaf gydag animeiddio yn rhan ohoni oeddToy Story a ryddhawyd yn 1995.
Yn y theatr, daethBroadway ynEfrog Newydd yn ganolfan bwysig yn fyd-eang ar gyfer awduron drama ac ar gyfer theatr gerddorol. Cafodd gwaith awduron felArthur Miller aTennessee Williams ei berfformio ar Broadway ac roedd cyfansoddwyr fel Rodgers and Hammerstein, Lerner and Loewe ac Irving Berlin yn ddylanwadau pwysig ar y diwydiant a’r diwylliant ffilm.[6]
Gyda datblygiadau technolegol mewn cyfrifiaduron ers yr Ail Ryfel Byd, crëwyd math newydd o adloniant yn yr 20g – sef ygêm fideo. Tra bod y syniad o gemau fideo wedi cael eu llunio yn ystod y 1940au a'r 50au, ni wnaeth gemau fideo ddatblygu fel diwydiant a busnes tan y 1970au. Roedd hwn yn ffenomenon cymdeithasol a diwylliannol ac yn gychwyn ar oes aur gemau fideo arcêd – dyma’r cyfnod pan ryddhawydSpace Invaders gan Taito,Asteroids gan Atari aPac-Man gan Namco.
Cafodd cwmniNintendo lwyddiant ysgubol gyda gwerthiant gêmSuper Mario Bros ar draws y byd. Yn ystod y 1990au rhyddhawyd pecyn gêm fideoPlayStation gan Sony gyda gwerthiant yn cyrraedd 100 miliwn. Roedd gemau fideo mor boblogaidd fel bod y diwydiant wedi creu swyddi newydd - er enghraifft, cynllunwyr gemau fideo.
Roedd datblygiadau mawr yn y byd celf yn ystod yr 20fed Ganrif. Juan Gris,Bywyd llonydd gyda Bowlen o Ffrwythau a Mandolin, 1919.
Datblygodd ffurfiau a steiliau newydd o gelfyddyd felMynegiadaeth (Saesneg:Expressionism),Dada (Saesneg:Dadaism),Ciwbiaeth (Saesneg:Cubism),Swrealaeth, (Seasneg:Surrealism),Celf bop (Saesneg:Pop Art) a chelf gysyniadaol (Saesneg:Conceptual art). Roedd y syniadau newydd hyn yn bwysig yn natblygiad Moderniaeth.
Yn Ewrop, datblygodd pensaernïaeth fodern mewn ffurf wahanol iawn i steiliau addurniadoloes Fictoria. Roedd datblygiadau mewn defnyddiau adeiladu a thechnoleg yn golygu bod ffurfiau newydd o bensaernïaeth fwy syth ac onglog yn bosibl.[7]
Datblygwyd meysydd newydd o fathemateg yn yr 20g. Yn ystod hanner cyntaf yr 20g lluniwydtheori mesur, dadansoddiad swyddogaethol (Saesneg:functional analysis), athopoleg (Saesneg:topology). Bu datblygiadau pwysig hefyd mewn meysydd felalgebra haniaethol, a syniadautebygolrwydd (Saesneg:probability).
Yn nes ymlaen yn y ganrif, fe wnaeth datblygiad cyfrifiaduron arwain at greu theori gyfrifiadurol. Dyma’r ganrif pan wnaethAlan Turing ddod i’r amlwg fel un o benseiri gwyddoniaeth gyfrifiadurol.
Yn yr ugeinfed ganrif, daeth chwaraeon yn weithgaredd hamdden boblogaidd a hefyd yn fath o adloniant, yn enwedig ar y teledu. Cynhaliwyd yGemau Olympaidd modern cyntaf yn 1896 a daeth yn un o ddigwyddiadau chwaraeon pwysicaf yr oes fodern. CynhaliwydCwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf yn 1930, ac fe'i cynhaliwyd bob 4 mlynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Dyma’r ganrif a welodd ddechrauCwpan Rygbi'r Byd a llu eraill o dwrneimantau chwaraeon byd-eang yn cael eu darlledu.[8]
Yn ystod hanner cyntaf y ganrif datblygwyd meysydd newydd offiseg, fel perthynoledd arbennig, perthynoledd cyffredinol amecaneg cwantwm. Drwy astudio’r meysydd hyn ym maes ffiseg cafwyd gwell dealltwriaeth o strwythur yratom. Roedd y ffisegwrAlbert Einstein yn hollbwysig yn profi ei bod hi’n bosibl rhannu atom.
Darganfuwyd adweithiau niwclear, ac yn arbennigymasiad niwclear. Roedd y ddeubeth hyn yn allweddol i ddeall gwreiddiau egni'r haul.
Darganfuwyddyddio radiocarbon, a ddaeth yn dechneg bwerus a chywir wrth benderfynu oedran anifeiliaid a phlanhigion cynhanesyddol, ac arteffactau ac eitemau hanesyddol.
Datblygwyd dealltwriaeth well o sut oedd ybydysawd wedi datblygu a beth oedd ei oedran. Amcangyfrifwyd ei fod tua 13.8 biliwn o flynyddoedd. CyflwynwydDamcaniaeth y GlecFawr a oedd yn cynnig syniadau ynghylch sut oedd y byd wedi dod i fodolaeth. Cafodd y syniad hwn ei dderbyn yn gyffredinol.[9]
Daeth seryddwyr i gasgliadau mwy pendant ynghylch oedranCysawd yr Haul, gan gynnwys y Ddaear. Roedd y ddaear yn llawer hynach na'r hyn a gredwyd ynghynt – mae ei hoedran tua 4 biliwn o flynyddoedd yn hytrach na’r 20 miliwn o flynyddoedd a grybwyllwyd gan seryddwyr blaenorol.
Dechreuwyd arsylwi planedau Cysawd yr Haul a’rlleuadau yn llawer mwy manwl drwy ddefnyddio chwiliedyddion gofod. Darganfuwyd y blanedPlwton yn 1930 ar gyrion Cysawd yr Haul, ond cafodd ei hail-gategoreiddio ar ddechrau'r 21ain ganrif fel ‘plutoid’ yn hytrach na phlaned go iawn. Golyga hyn mai dim ond 8 planed sydd yng Nghysawd yr Haul.
Gwnaed cynnydd pwysig ym maesgeneteg a phwysigrwydd gwyddonol y maes hwnnw. Yn 1953 cyhoeddodd James Watson, Francis Crick, Rosalind Franklin aMaurice Wilkins eu darganfyddiad bod ganDNA strwythur pendant. Bu hyn o gymorth mawr wrth ddatblygu technegau a fyddai’n medru darllen dilyniant DNA (DNA sequences) ac a arweiniodd at Brosiect Genom Dynol (Saesneg:Human Genome Project) fel y bu modd clonio mamal am y tro cyntaf yn 1996.
Darganfuwydpenisilin ganAlexander Fleming yn 1928. Roedd darganfyddiadGwrthfiotig tebyg i hyn yn gweddnewid y byd meddygaeth modern. Byddai Gwrthfiotig yn arf pwysig wrth leihau marwolaethau oherwydd afiechydon bacteriol.
Datblygwyd brechiad ar gyferPoliomyelitis. Datblygwyd brechiadau effeithiol ar gyfer nifer o afiechydon heintus eraill, gan gynnwysy ffliw,Melyn mannog,y pâs,tetanws,y frech goch,clwy’r pennau (mumps),brech ieir,hepatitis A ahepatitis B. Arweiniodd mwy o ymchwil ym maes brechiadau at ddileu feirwsy frech wen yn gyfan gwbl mewn pobl. Mae brechiadau, gwell safonau glendid a chyflenwadau dŵr glân wedi lleihau achosion marwolaethau, yn enwedig ymhlith babanod a phlant.
Sefydlwyd y clinig atal cenhedlu cyntaf ym Mhrydain ganMarie Stopes yn 1920. Bu datblygiadau ym maes dulliau atal cenhedlu yn hollbwysig o ran lleihau twf ym mhoblogaeth gwledydd diwydiannol y byd.
pelydr-x o ben-glin dynol
Bu darganfyddiadinswlin meddygol yn ystod y 1920au yn bwysig o ran gwella disgwyliadau oedran cleifion diabetig gymaint â thair gwaith.
Daethpelydr-X yn rhan bwysig o wneud diagnosis wrth drin cleifion – o dorriasgwrn iganser. O’r 1960au ymlaen datblygwyd offer diagnostig eraill, er enghraifft, sonograffi, ac o’r 1970au ymlaen defnyddiwydMRI (magnetic resonance imaging).
Yn ystod y 1950au profodd ymchwil bod cysylltiad uniongyrchol rhwng ysmygutybaco a chanser. Datblygwyd dulliau newydd o drin canser, er enghraifft,cemotherapi, therapi ymbelydrol ac imiwnotherapi. O ganlyniad roedd modd gwella’n llwyr o ganser neu wella am ysbaid.
Dechreuwyd categoreiddio gwaed a sefydlwyd banciau gwaed. Golygai hyn bod trawsarllwysiad gwaed yn fwy diogel ac yn dod yn fwy cyffredin. Cynhaliwyd y trawsblaniad calon cyntaf lle llwyddwyd i ddod â'r claf yn ôl yn ymwybodol yn 1967 gan Dr Christiaan Barnard. Bu dyfeisiadau a datblygiadau mewn meddyginiaethau gwrthimiwnaidd a sut roedd meinwe yn cael ei gategoreiddio, a golygodd hynny bod trawsblaniadau organau a meinwe yn dod yn fwy cyffredin. Datblygwyd triniaethau newydd ar gyfer llawdriniaethau ar ygalon – er enghraifft, datblygu amseriaduron calon a chalonnau artiffisial.
Lladdwyd rhwng 20 a 100 miliwn o bobl rhwng 1918 a 1919 gan bandemig ffliw yFfliw Sbaenaidd.
Darganfuwyd feirws newydd, sefHIV, a gychwynnodd ynAffrica. Roedd y feirws HIV yn arwain at gyflwrAIDS a lledaenodd y feirws ar draws y byd, gan ladd miliynau o bobl. Datblygwyd brechiadau a meddyginaethau i drin y cyflwr.
Gan fod cyfraddau oedran wedi cynyddu mae afiechydon fel canser,Clefyd Alzheimer a Chlefyd Parkinson wedi dod yn fwy cyffredin.
Yn ystod yr 20g defnyddiwyd mwy o adnoddau ffosil fel glo,olew aphetrol. Gwnaed mwy o ddefnydd obŵer niwclear hefyd.
Achosodd y defnydd cynyddol o danwydd ffosil drafodaeth fyd-eang am ei effaith ar lygredd awyr, cynhesu byd-eang a’r newid oedd yn digwydd yn nhymheredd yr hinsawdd.
Roedd plaladdwyr, chwynladdwyr a chemegau gwenwynig eraill yn crynhoi yn yr amgylchedd, yng nghyrff pobl ac mewn anifeiliaid.
Un o nodweddion pennaf yr 20g oedd twf a dylanwad technoleg. Cafodd yr ymchwil a wnaed ym maes technoleg effaith ar feysydd eraill felcyfathrebu,electroneg,peirianneg,teithio,meddygaeth arhyfel. Dechreuwyd defnyddio offer sylfaenol technolegol yn y cartref o’r 1920au ymlaen, gan ennill mwy o boblogrwydd o’r 1950au ymlaen: er enghraifft,peiriant golchi, sychwyr dillad, rhewgelloedd, rhewgistiau, ffyrnau trydan a sugnwyr llwch. Poblogeiddiwyd yradio fel ffurf o adloniant o’r 1920au ymlaen. Defnyddiwyd y radio hefyd ar adegau o argyfwng cenedlaethol i gyfathrebu gyda chynulleidfa eang. DaethF. D. Roosevelt, Arlywydd America, yn enwog yn ystod ei gyfnod fel Arlywydd am ei ‘sgyrsiau ger y tân’ ar y radio gyda phobl America. RoeddWinston Churchill hefyd yn defnyddio’r radio fel arf propaganda wrth iddo geisio codi morâl pobl Prydain adeg yr Ail Ryfel Byd. Daeth y teledu yn fwyfwy cyffredin yn ystod y 1950au a’r 1960au hefyd.
Hedfanwyd yrawyren gyntaf yn 1903. Dyfeisiwyd yr injan jet gyflymach yn ystod y 1940au ac oherwydd hynny daeth teithio drwy'r awyr o fewn cyrraedd i filiynau o bobl. Daeth cwmnïau teithio masnachol oedd yn darparu gwyliau drwy deithio drwy'r awyr yn fwy cyffredin.
Roedd datblygiad y ‘llinell gynhyrchu’ yn caniatáu adeiladu ceir ar raddfa gyflymach. Ar ddechrau’r 20g cwmni ceirHenry Ford yn America oedd yr un cyntaf yn y byd a fedrai gynhyrchu car ar raddfa eang oherwydd y defnydd o’r llinell gynhyrchu. Ceir Ford oedd y rhain.
Dyfeisiwyd a defnyddiwyd defnyddiau newydd fel dur gloyw,felcro,silicon, tefflon. Daeth plastigau fel polystyren, PVC, polyethylen aneilon yn fwy cyffredin a dechreuwyd eu defnyddio ar gyfer sawl pwrpas gwahanol. Roedd y defnyddiau newydd hyn yn cynnig cryfder, yn medru goddef tymheredd uchel, ac yn medru gwrthsefyll gwahanol gemegau roedd llawer o ddefnyddiau cyn yr 20g yn methu eu gwrthsefyll. Daeth alwminiwm yn fwyfwy cyffredin ac yn ail o ran defnydd ihaearn. Datblygwyd miloedd o gemegau ar gyfer cael eu prosesu mewn diwydiant neu ar gyfer defnydd yn y cartref.
Cyfrifiadur personol 'SPARCstation' o'r 90au cynnar
Ar ddiwedd yr 20g bu chwyldro digidol a oedd hefyd yn cael ei adnabod, ymhlith enwau eraill, fel yr ‘oes wybodaeth’ neu'r ‘chwyldro gwybodaeth’.
Dyfeisiwyd ymicrosglodyn ar ddechrau’r 1960au. Datblygwyd y microsglodyn ymhellach yn y 1970au ac erbyn dechrau'r 1980au roedd y chwyldro microsglodion wedi dechrau. Arweiniodd hyn at ycyfrifiaduron personol yn y 1980au, yna at ddyfeisio ffonau symudol a’r rhyngrwyd byd-eang yn ystod y 1990au.
Erbyn y 1980au a’r 1990au roedd teledu lloeren yn dod yn fwy poblogaidd ac roedd cyfrifiaduron wedi dechrau cael eu defnyddio yn nhai pobl yn ystod y 1970au a’r 1980au. Daeth camerâu digidol yn fwy cyffredin yn ystod y 1980au a’r 1990au.
Bu radio transistor, traciau 8 sain a thapiau casét yn ystod y 1960au yn gamau pwysig yn natblygiad chwaraewyr cerddoriaeth symudol. Yn raddol disodlodd y rhain chwaraewyr recordiau, gyda’rSony Walkman yn cael ei gyflwyno yn y 1970au. Wedyn daethCryno-ddisgiau yn ystod y 1980au a’r 1990au. Fe wnaeth dyfodiad yr MP3 ar y we yn ystod canol a ddiwedd y 1990au y broses o ddosbarthu cerddoriaeth yn ddigidol yn bosib. Roedd chwaraewyr tapiau fideo (VCRs) yn boblogaidd yn ystod y 1970au ond erbyn diwedd yr 20g roeddent wedi dechrau cael eu disodli gan chwaraewyrDVD. Erbyn diwedd degawd cyntaf yr 21ain ganrif roedd VHS wedi dod i ben fel cyfrwng hyfyw.
Bu twf enfawr hefyd yn y diwydiant telegyfathrebu tuag at ddiwedd yr 20g, gyda chyfathrebu di-wifr yn dod yn gyffredin. Gwelwyd twf mewn rhwydweithiau a chwmnïau ffonau symudol yn sgil hynny.
1961 – Yr Undeb Sofietaidd yn lansio taith ofodVostok 1, sef taith gyntaf erioed dyn i’r gofod.
1969 – Yr Unol Daleithiau yn lansioApollo 11, gyda dyn yn glanio ar y lleuad am y tro cyntaf.
Yn nes ymlaen lansiodd rhaglen ofod yr Undeb Sofietaidd yr orsaf ofod gyntaf.
Llun o nifwl Tarantula gan delesgop Hubble.
1981 – yr Unol Daleithiau yn datblygu’r system ofod adnewyddadwy gyntaf. Hon oedd Rhaglen ySpace Shuttle.
Roedd lloerenni Di-griw hefyd yn hanfodol ar gyfer parhau i fforio a darganfod pethau am y gofod. Lansiwyd lloeren Sputnik 1 yn 1957 gan yr Undeb Sofietaidd, sef y lloeren gyntaf erioed i gael ei lansio i’r gofod. Roedd y lloeren hon yn teithio'n gyson i wahanol fannau yn y gofod. Lansiwyd nifer o loerenni yn ddiweddarach oedd yn teithio o gwmpas y ddaear. Erbyn diwedd yr 20g roedd nifer o loerenni wedi ymweld â’r lleuad, planedau Mercher, Fenws, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion yn ogystal ag asteroidau a chomedau eraill. LansiwydTelesgop Gofod Hubble yn 1990 a oedd yn galluogi darlledu lluniau o’r bydysawd ar gyfrifiaduron a theledu ar draws y byd. Roedd hyn yn ddatblygiad pellach o ran faint o wybodaeth oedd yn medru cael ei chasglu am y bydysawd a dealltwriaeth dyn o’r bydysawd.
Daeth dechrau canrif newydd â chyfnod cyffrous o dwf economaidd a newidiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol yngNghymru. Dyma ganrif hefyd a welodd Cymru yn magu mwy o ymwybyddiaeth o’i hunaniaeth fel gwlad ac o ran ei hiaith a’i diwylliant.[10]
Ar ddechrau’r ganrif roedd cymoedd y de a’r diwydiant glo yn ffynnu ac yn cynhyrchu traean o holl allforion glo'r byd. Ar y llaw arall, roedd 1900-1913 yn gyfnod o anghydfod diwydiannol gyda streicChwarel y Penrhyn, a therfysgoeddTonypandy aLlanelli yn ddiweddarach. Mewn materion gwleidyddol clywid llais y merched am y tro cyntaf gyda chychwyn ymgyrch ySwffragetiaid. Roedd yn gyfnod o lwyddiant ac optimistaeth mawr, ond buan y tarfwyd ar hynny gyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Yn ei sgil daeth un o brif ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru’r 20g i’r amlwg, sefDavid Lloyd George. Amlygodd y Cymro ei hun fel arweinydd medrus ac adnabuwyd ef fel ‘y dyn a enillodd y rhyfel’.
Ond er mor deyrngar oedd Cymru i’r Rhyddfrydwyr ar ddechrau’r ganrif gwelwyd newidiadau mawr ym map gwleidyddol Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Erbyn y 1920au a’r 1930au roedd de Cymru wedi dod yn gadarnle i’r Blaid Lafur, gyda hyd yn oed rywfaint o gefnogaeth i’r Blaid Gomiwnyddol. Er enghraifft, roedd y Rhondda yn cael ei hadnabod fel ‘Moscow Fach’ yn ystod y cyfnod hwn. SefydlwydPlaid Genedlaethol Cymru yn 1925, ac yn ystod y degawdau dilynol enillodd y blaid dir newydd yng Nghymru.
Ym myd gwaith symudodd Cymru o fod yn wlad a oedd yn ddibynnol ar y diwydiannau trwm traddodiadol i fod yn wlad ag economi fwy amrywiol, gyda symudiad tuag at waith cynhyrchu ceir, swyddi gweinyddol a bydtwristiaeth. Roedd hon yn ganrif lle gwelwyd y gwerthoedd traddodiadol crefyddol yn crebachu, ac roedd yr hen Gymru Anghydffurfiol, a fu’n ddylanwad mor hollbwerus ym mywyd Cymru ar ddechrau’r ganrif, wedi colli ei hapêl i genedlaethau newydd erbyn diwedd y ganrif.
Magodd Cymru hyder cynyddol yn ei hunaniaeth yn ystod y ganrif, gyda sefydliadau cenedlaethol yn cael eu sefydlu felPrifysgol Cymru, yLlyfrgell Genedlaethol a’rAmgueddfa. Meithrinwyd hefyd ymwybyddiaeth a balchder cynyddol yn ei hiaith a’i diwylliant, gyda thwf mewn addysgGymraeg, deddfau iaith yn cael eu pasio a hefyd mudiadau yn cael eu sefydlu er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau’r iaith. Cryfhawyd yr ymdeimlad hwn o genedlaetholdeb yn sgil profiadau Cymru yn ystod y ganrif - er enghraifft, y cronfeydd dŵr a agorwyd ar draul dinistrio cymunedau Cymraeg eu hiaith,Boddi Tryweryn a’r defnydd a wnaed o’i thir ar gyfer pwrpas milwrol. Roedd y 1960au yn gyfnod lle gwelwyd newid mewn agweddau tuag at werthoedd traddodiadol y genhedlaeth hŷn. Roedd y genhedlaeth ifanc yn herio’r hen drefn. Dyma’r cyfnod pan ddatblygodd ‘Y bwlch rhwng cenedlaethau’. Adlewyrchwyd y newid hwn mewn cerddoriaeth boblogaidd Cymraeg. Ysbrydolwyd nhw gan gynnwrf protestiadau gwleidyddol y cyfnod - er enghraifft,Dafydd Iwan yn cyfansoddi caneuon adeg Arwisgiad 1969. Wedi i’rBlaid Lafur ennill etholiad 1974, ailgydiwyd yn y drafodaeth ynghylch ymreolaeth i Gymru, ac roedd sefydlu mudiadau fel mudiad ysgolion meithrin yn dyst i’r ffaith nad iaith i’r henoed yn unig oedd y Gymraeg.
Coronwyd diwedd y ganrif gyda sefydliad gwleidyddol newydd i Gymru.Etholwyd llywodraeth newydd i Brydain, ac mewnrefferendwm yn 1997 pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli. TrawsnewidiwydBae Caerdydd gydag adeiladau trawiadol ySenedd aChanolfan y Mileniwm.[11]
↑"Yn y lle hwn - Hyder o'r newydd".www.webarchive.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd2020-04-03.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
↑"Yn y lle hwn - Cymru fodern".www.webarchive.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd2020-04-03.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)